Mae cadeirydd Caerdydd, Peter Ridsdale, wedi dweud y bydd partneriaeth farchnata gyda grŵp o fuddsoddwyr ym Malaysia yn hwb mawr i’r clwb.
Cyhoeddwyd ddoe bod Caerdydd wedi dod i gytundeb gyda’r grŵp Football Focus Asia.
Mae’r cadeirydd wedi dweud y bydd y cytundeb yma’n golygu nawdd ar gyfer crysau, hawliau enwi ar y stadiwm newydd a buddsoddiad i’r clwb.
Fe fyddai nawdd a buddsoddiad gan y grŵp yn help mawr i dalu rhan o’r 24m o ddyled sydd gan glwb y brifddinas.
Ond mae Ridsdale wedi gwadu bod ‘na bosibiliad o fuddsoddiad tebyg i’r hyn mae Man City wedi’i brofi dros y flwyddyn ddiwethaf.
Gemau cyfeillgar
Mae disgwyl i bennaeth y grŵp, Dato Chan Tien Ghee, ymweld â’r clwb o fewn y misoedd nesaf.
Nod y cytundeb marchnata yw:
• Chwarae gemau cyfeillgar yn Asia
• Denu mwy o gefnogwyr o’r rhanbarth
• Datblygu chwaraewyr ifanc o’r Dwyrain Pell
“Y Dwyrain Pell yw un o farchnadoedd mwyaf y byd, sy’n cynrychioli dros hanner poblogaeth y byd. Mae’r awch am ‘bêl droed o gynghrair Lloegr’ wedi cael ei brofi yn barod. Mae’r bartneriaeth ‘ma yn tanlinellu gweledigaeth Caerdydd i fod yn rym blaenllaw o fewn pêl droed Lloegr ac i gyflwyno’r clwb i gefnogwyr ar draws y byd,” meddai Peter Ridsdale.
Fe nododd y Cadeirydd ei fod yn gobeithio cyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn â’r bartneriaeth yn y dyfodol agos.