Byddai eithrio Ysgol Eglwys Newydd Caerdydd o reolaeth cyngor y brifddinas yn atal datblygiad addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngorllewin y ddinas, yn ôl undeb Unison.
Cyhuddodd yr undeb llywodraethwyr yr ysgol uwchradd – yr un fwyaf yng Nghymru – o fod yn “hunanol ac ymrannol”, drwy gynnig ail sefydlu’r ysgol fel un annibynnol.
Mae’r cyngor ar hyn o bryd yn ymgynghori ynglŷn ag ail-drefnu ysgolion yn ardal yr Eglwys Newydd, fel rhan o gynllun ehangach i leihau llefydd dros ben mewn ysgolion Saesneg, er mwyn cyfarfod â’r galw mawr am addysg drwy’r Gymraeg.
Dywedodd Unison bod ehangu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal yn ddibynnol ar leihau maint Ysgol Eglwys Newydd.
Yn ôl ysgrifennydd cangen Caerdydd, Mark Turner, mae Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd gerllaw yn orlawn ac angen lle i ehangu.
“Bydd cais Ysgol Eglwys Newydd i eithrio o reolaeth y cyngor yn gohirio’r angen i ehangu ar Ysgol Melin Gruffydd ac yn rhwystro datblygiad yn y dyfodol.
“Bydd y cam hunanol yma gan Ysgol Eglwys Newydd yn gwneud cawlach o’r ail-drefnu i gyd.”
Eisiau i’r ysgol ailystyried
Dywedodd y cynghorydd Delme Bowen, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerdydd, ei fod o’n “gresynu eu bod nhw’n cymryd y llwybr yma”, ond ei fod yn gobeithio y bydden nhw’n “edrych dros y dibyn ac yn ailystyried”.
“Os ydi Ysgol Eglwys Newydd yn mynd yn annibynnol, gobeithio y gwnawn nhw ddatblygu cynllun er mwyn dysgu’r Gymraeg fel ail iaith,” meddai.
Ysgol yn ‘orlawn’
Dywedodd Michael Jones, o fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg, nad oedd yn rhagweld y byddai’r gweinidog addysg, Jane Hutt – fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol – yn “hapus o gwbwl” gyda’r datblygiad.
“Mae hi wedi bod yn pregethu bod angen torri i lawr ar y nifer o lefydd gwag yng Nghaerdydd,” meddai. “A fydd hi ddim yn hoffi’r syniad o ysgol annibynnol.
“Mae safle Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn anobeithiol o orlawn. Mae nhw’n dysgu mewn pedwar neu bump caban dros dro a dyw hynny ddim yn dderbyniol.
“Mae yna bobol yn cwyno bod teuluoedd sy’n siarad Cymraeg yn dod i mewn i Gaerdydd ac yn cymryd llefydd eu plant nhw.
“Ond mae pob plentyn yn Ysgol Melin Gruffydd o’r dalgylch. Fel arall fyddai gennyn nhw ddim gobaith caneri coch o gael lle yn yr ysgol.”
Swyddi ‘mewn peryg’
Fel ysgol annibynnol byddai gan Ysgol Eglwys Newydd fwy o annibyniaeth o’r cyngor a byddai modd iddi reoli pa ddisgyblion fyddai’n cael mynediad.
Roedd Unison hefyd yn poeni y byddai cymryd Ysgol Eglwys Newydd allan o reolaeth y Cyngor yn bygwth swyddi.
“Mae’r ysgol wedi gwneud y cais heb feddwl am y staff, yr undebau nag ysgolion eraill,” meddai Mark Turner.
(Llun: Gwefan Ysgol Eglwys Newydd)