Mae gwrthwynebwyr ail atomfa yn yr Wylfa yn Ynys Môn yn hawlio buddugoliaeth ar ôl i Weinidog Amgylchedd Cymru ddweud nad oes angen pwerdai niwclear newydd yng Nghymru.

Mae Jane Davidson hefyd wedi sgrifennu at yr Adran Amgylchedd yn Llundain i fynd yn groes i’w barn nhw a mynnu y byddai angen ymchwiliad cyhoeddus cyn codi atomfa.

Roedd y datganiad yn un eithriadol o bwysig, meddai’r Dr Carl Clowes, un o arweinwyr y mudiad Pobol yn Erbyn Wylfa B a’r dyn a gafodd y wybodaeth mewn llythyr o adran Jane Davidson.

“Mae hon yn stori fawr,” meddai. “Rydyn ni wedi bod yn chwilio am y math yma o arweiniad.

“Yn y bôn, mae’r Ysgrifennydd Ynni yn Llundain, Ed Miliband, wedi dweud nad oes angen ymchwiliad ac mae hithau’n gofyn am hynny,

“Mae hyn yn codi cwestiynau sylfaenol am ail atomfa yn yr Wylfa. Dyw buddsoddwyr ddim yn mynd i ddod os oes yna wrthwynebiad gan rai o arweinwyr y wlad.”

Beth ddywedodd y Gweinidog

Yn ôl Jane Davidson, roedd modd i Gymru gynhyrchu digon o drydan o ffynonellau eraill heb droi at niwclear.

Ac, mewn llythyr at un o weinidogion yr Adran Amgylchedd a Newid Hinsawdd yn Llundain, fe ddywedodd bod angen ymchwiliad cyhoeddus oherwydd y peryg o orfod trin gwastraff niwclear.

Barn y gwrthwynebwyr

Yn ôl ymgyrchwyr yn erbyn ail atomfa, mae gwastraff y dyddiau yma yn llawer mwy anodd ei drin ac yn fwy peryglus nag yn y gorffennol.

Yn ôl Carl Clowes, roedd modd rhoi hwb i economi Ynys Môn trwy ddatblygu’r diwydiant ynni amgen – o ran cynhyrchu trydan a chreu’r offer – ac roedd y drafodaeth am ail Wylfa wedi “parlysu” unrhyw drafodaeth ar ddatblygu economi amgen.

(Llun: Gerallt Llywelyn)