Mae Michael Schumacher wedi cadarnhau na fydd o’n yn dychwelyd i rasio Fformiwla Un oherwydd anaf i’w wddf.

Roedd yr Almaenwr wedi dioddef anaf mewn damwain ar feic modur ym mis Chwefror eleni.

Roedd Schumacher am gymryd lle Felipe Massa dros dro, tra bod y gŵr o Frasil yn gwella o’i anafiadau wedi’r ddamwain yn ras ragbrofol Grand Prix Hwngari.

Mewn datganiad ar ei wefan swyddogol dywedodd Schumacher ei fod wedi rhoi gwybod i lywydd Ferrari, Luca di Montezemolo, yn ogystal â phennaeth tîm Fformiwla Un Ferrari Stefano Domenicali, na fydd yn gallu cymryd lle Felipe Massa.

“Rwyf wedi ceisio gwneud popeth i allu dod ‘nôl, ond yn anffodus dydi o ddim wedi gweithio,” meddai’r cyn-bencampwr.

Roedd disgwyl i Michael Schumacher ddychwelyd i rasio yn Grand Prix Ewrop yn Valencia ar 23 Awst.

Dyw Ferrari heb gyhoeddi eto pwy fydd yn rasio car Felipe Massa yn Sbaen.

Alonso i Ferrari?

Mae Eddie Jordan, cyn-berchennog tîm Fformiwla Un Jordan, wedi dweud bod y cyhoeddiad yn ergyd i Ferrari.

Ychwanegodd y gallai ysgogi Felipe Massa i ddychwelyd i rasio yn gynt na’r disgwyl.

Ond fe wnaeth Eddie Jordan hefyd ddweud ei fod yn credu y bydd Ferrari yn gwneud ymgais i ddenu gyrrwr Renault, Fernando Alonso, i rasio iddyn nhw.