Mae perchennog archfarchnad yng Ngwynedd wedi cael ei ddirwyo am werthu sigaréts i blant – ar ôl cael rhybudd i beidio â gwneud.
Fe blediodd Paul Turnbull, perchennog siop A & P Superstore yn Aberdyfi, yn euog i ddau gyhuddiad o werthu sigaréts i bersonau o dan 18 oed yn ei siop.
Cafodd y perchennog ei gyfweld gan swyddogion Safonau Masnach Cyngor Gwynedd ar ôl i gwsmer 15 oed brynu paced o sigaréts o’r siop fis Hydref 2008 fel rhan o ymarfer cudd.
Ond ar 1 Ebrill 2009 cynhaliwyd ymarferiad tebyg, y tro hwn gyda gwirfoddolwr 14 oed, ac eto gwerthwyd y sigaréts i’r person dan oed. Y tro hwn Paul Turnbull ei hun werthodd y sigaréts.
Wrth ei ddedfrydu dywedodd yr ynadon wrth Paul Turnbull fod y rhain yn droseddau difrifol. Cafodd ddirwy o £550 a gorchymyn i dalu £100 mewn costau wedi’r gwrandawiad yn Llys Ynadon Dolgellau.
‘Atal mynediad i ysmygu’
“Mae’n allweddol bwysig fod pobl yn cael eu hannog i beidio â dechrau ysmygu. Mae atal mynediad pobl ifanc at sigaréts yn rhan allweddol o’r ymgyrch yma.”- Cynghorydd John R Jones, Arweinydd Portffolio Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd.