Mae ymchwil o’r Unol Daleithiau yn awgrymu y gall mamau sydd â hanes teuluol o ganser y fron, haneru’r perygl o ddatblygu’r salwch drwy fwydo eu babanod o’r fron.
Mae’r ymchwil yn awgrymu bod mamau sydd wedi etifeddu genynnau teuluol sy’n cario’r clefyd, ond sydd wedi bwydo babanod o’r fron, 59% yn llai tebygol o ddatblygu’r canser cyn cyrraedd diwedd y mislif.
Yn ôl yr ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn, Archives of Internal Medicine, mae effaith gadarnhaol bwydo o’r fron yn cymharu â chael triniaeth arbennig Tamoxifen ar yr hormonau – triniaeth sy’n cymryd pum mlynedd i’w gwblhau.
Cafodd yr ymchwil ei gyhoeddi ar ôl arolygu cyflwr meddygol 60,000 o wragedd a aeth yn feichiog yn 1997.
Dywedodd arweinydd yr ymchwil, Dr Alison Stuebe, o Brifysgol North Carolina, fod yr ymchwil ddim wedi dangos fod bwydo o’r fron yn lleihau’r perygl o ddatblygu canser y fron mewn mamau sydd heb gefndir teuluol o’r salwch.