Fe wnaeth daeargryn pwerus daro Tokyo a’r cyffiniau yn gynnar bore ‘ma, gan atal trenau a gorfodi gorsaf niwclear i gau dros dro.
Adroddodd gwasanaeth darlledu NHK o Japan bod 43 o bobol wedi eu hanafu yn y daeargryn a fesurodd 6.5 ar y raddfa richter.
Roedd y daeargryn wedi ei ganoli 12 milltir o dan Fae Suruga, i’r de orllewin o Tokyo.
“Roedd yr ysgwyd yn eithaf cryf, hyd yn oed fan hyn. Doedd o ddim fel y rhai bach arferol,” meddai Mitsuharu Wakamori, llefarydd o ran y wasg yn Aichi, 86 milltir o ganolbwynt y daeargryn.
Cafodd rhan o orsaf niwclear Hamaoka ei chau am gyfnod er mwyn gwneud profion diogelwch. Mae gorsafoedd yn cael eu cau yn awtomatig os oes daeargryn bwerus yn taro’r ardal.
Dyma’r ail ddaeargryn yn Japan yr wythnos yma, wedi i ddaeargryn 6.9 ysgwyd yr un ardal ddydd Sul.
Japan yw un o’r gwledydd sy’n dioddef waethaf o ddaeargrynfeydd, ac mae arbenigwyr yn credu fod siawns 90% y bydd daeargryn fawr yn taro Tokyo yn y 50 mlynedd nesaf.
Cafodd y brifddinas ei chwalu gan ddaeargryn yn 1923.