Mae’r broses o newid i system deledu ddigidol ar fin dechrau yng Nghymru wrth i;r signal analog gael ei diffodd yn ardal Abertawe heno am hanner nos.

Mae hynny’n golygu y bydd rhaid i tua 139,000 o gartrefi yn ardal Abertawe a Chastell-nedd gael teledu digidol er mwyn parhau i wylio.

Bydd gweddill Cymru yn dilyn yn ystod y misoedd nesa’, gyda phawb yng Nghymru wedi trosglwyddo i’r system ddigidol erbyn mis Mawrth 2010.

Mae Digital UK wedi dweud bod 90% o gartrefi yng Nghymru eisoes yn gallu derbyn teledu digidol.

Cartrefi yn ardal y Preseli fydd nesa’ – o fewn wythnos – a’r diwetha’ fydd ardaloedd Caerdydd, Casnewydd a de ddwyrain Cymru ar 3 Mawrth y flwyddyn nesa’.

Cymru fydd y wlad gyntaf ym Mhrydain i drosglwyddo’n llwyr i’r system ddigidol.