Mae o leia’ chwe pherson wedi marw ar ôl ffrwydrad a thân mewn pwll glo yn Slofacia ac mae awdurdodau’r wlad yn credu y gallai 14 arall fod wedi eu lladd.
Yn ôl Lubomir Jahnatek, Gweinidog Economaidd Slofacia, mae achubwyr wedi canfod chwe chorff, ond roedd 20 o weithwyr yn y pwll adeg y ffrwydrad.
Dywedodd y gweinidog ei fod yn annhebygol bod neb yn fyw.
Nwy
Cafodd y ffrwydrad ei achosi gan nwy a ollyngodd i hen siafft 330 metr o dan y ddaear ble’r oedd tân eisoes wedi cynnau.
Roedd naw gweithiwr yn ceisio diffodd y tân i ddechrau – ond, erbyn i’r ffrwydrad ddigwydd, roedd 11 o weithwyr ychwanegol wedi eu hanfon i helpu.
Dywedodd rheolwyr y pwll glo eu bod wedi colli pob cysylltiad gyda’r 20 o weithwyr wedi’r ffrwydrad.