Chwaraewr canol cae Caerdydd, Joe Ledley, fydd yn gapten ar Gymru yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Montenegro nos yfory.
Roedd yna sôn mai amddiffynnwr West Ham, Danny Gabbido, oedd am gael ei benodi’n gapten oherwydd absenoldeb Craig Bellamy a salwch Ledley.
Ond mae’n debyg bod Ledley wedi gwella o’r anhwylder oedd wedi’i atal rhag chwarae’r ail hanner i Gaerdydd yn erbyn Scunthorpe penwythnos diwethaf.
Mae Joe Ledley wedi bod yn gapten ar Gymru ddwy waith o’r blaen – fe wnaeth Cymru ennill y ddwy, gyda buddugoliaethau o 1-0 yn erbyn Estonia ac Azerbaijan.
Cefnogaeth i Hartson
Fe fydd chwaraewyr Cymru yn dangos eu cefnogaeth i gyn-ymosodwr Cymru, John Hartson, sy’n ymladd canser, yn ystod y gêm nos yfory.
Bydd y garfan yn dangos eu cefnogaeth drwy wisgo bathodyn arbennig ar y crys rhyngwladol.
Fe fydd y bathodyn yn cynnwys enw Hartson a’r rhif 9 yn ogystal ag enw’r elusen ‘Chekemlads.com’ sy’n codi ymwybyddiaeth am faterion iechyd dynion.
Mae’r tîm hefyd am wisgo crysau T gyda’r un bathodyn wrth gynhesu cyn y gêm.
Bydd y crysau rhyngwladol a’r crysau T yn cael eu gwerthu ar eBay i godi arian.
Beth ddaw o Bellamy?
Gallai’r gwrthdaro dros absenoldeb Craig Bellamy gael effaith ar yrfa ryngwladol ymosodwr Man City.
Doedd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ddim yn gwybod pam fod Bellamy yn absennol fore ddoe.
Dywedodd Man City mewn datganiad bod yna gamddealltwriaeth wedi bod wrth gyfathrebu gyda Chymdeithas Bêl-Droed Cymru.
Yn y gorffennol, dyw John Toshack ddim wedi rhoi llawer o gyfle arall i chwaraewyr sydd wedi ei bechu – fe allai ddibynnu a yw’n beio’r chwaraewr neu’r clwb.