Mae’r Prif Weinidog Gordon Brown wedi dweud ei fod yn “ddig” wrth glywed y bydd Aung San Suu Kyi yn cael ei chadw’n gaeth yn ei chartre’ am 18 mis arall.
Fe wnaeth llys y wlad ei chael yn euog o dorri amodau ei charchariad cynharach trwy roi lloches i Americanwr.
Er hynny, mae sylwebwyr a llawer o wledydd eraill yn credu bod y cyhuddiadau wedi eu dyfeisio er mwyn cadw Aung San Suu Kyi dan glo tros gyfnod etholiadau.
Disgrifiodd Gordon Brown yr achos llys fel un “ffug”, gan ychwanegu bod hyn yn profi bod Burma yn diystyru safonau cyfreithiol ac yn herio’r farn ryngwladol.
Etholiad 2010
Y gwleidydd 64 oed, ac enillydd y Wobr Nobel am Heddwch, ddaeth i’r brig y tro diwetha’ y cafodd etholiadau eu cynnal yn y wlad.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn credu bod awdurdodau Burma wedi’i charcharu er mwyn ei hatal hi rhag cymryd rhan yn etholiad nesaf y gyfundrefn y flwyddyn nesaf.
“Tra bod Aung San Suu Kyi a’r holl wrthwynebwyr gwleidyddol eraill yn cael eu carcharu, sy’n eu hatal rhag chwarae rhan yn y broses wleidyddol yn Burma, ni fydd gan yr etholiad yn 2010 unrhyw hygrededd”, meddai Gordon Brown.
Y cyhuddiadau
Roedd y stori y tu cefn i’r achos yn un rhyfedd.
Roedd Americanwr o’r enw John Yettaw wedi nofio ar draws llyn i gyrraedd cartref Aung San Suu Kyi ac wedi aros yno am ddeuddydd.
Dyw hi ddim yn glir beth oedd ei ysgogiad ond mae’n amlwg nad wedi cael ei wahodd yno.
Mae John Yettaw yn diodde’ o sawl cyflwr iechyd gan gynnwys salwch meddwl o ganlyniad i drawma ei gyfnod yn filwr gyda byddin yr Unol Daleithiau.