Mae trefnwyr Gwersyll Hinsawdd cynta’ Cymru yn paratoi am wrthdaro gyda’r heddlu yn nes ymlaen yr wythnos hon.
Dyw’r union fanylion am safle gwersyll Climate Camp Cymru yn ardal Merthyr ddim wedi eu rhoi eto – er bod y digwyddiad yn dechrau ddydd Iau. Trwy safleoedd gwe a negeseuon trydar y bydd y rheiny’n cael eu rhoi.
Y bwriad yw “adeiladu mudiad ar gyfer gweithredu uniongyrchol tros achosion newid hinsawdd” ac mae’n cael ei dargedu ar waith glo brig Ffos y Frân yn yr ardal.
Mewn cyfarwyddiadau i’r Wasg, mae’r trefnwyr yn rhybuddio y gallai’r cyfarwyddiadau newid oherwydd “gweithredu gan yr heddlu”.
Mae gwrthdaro wedi bod mewn gwersylloedd hinsawdd yn y gorffennol ac roedd protestwyr tebyg yn yr Alban yr wythnos ddiwetha’ wedi torri belt cario glo.
Beth yw’r gwersyll?
• Fe fydd yn cael ei gyd-drefnu gan bawb sydd yno.
• Fe fydd gweithdai a thrafodaethau am newid hinsawdd a’r ffordd i ymateb iddo.
• Fe fydd popeth yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n parchu’r amgylchedd – o doiledau i fwyd.
• Yn y gorffennol, mae’r gwersylloedd eu hunain wedi arwain at weithredu uniongyrchol.
Llun: Y fynedfa i wersyll hinsawdd yr Alban