Fe fydd gweithwyr gyda chwmnïau contractio mewn dau safle ynni yng Nghymru yn dechrau pleidleisio heddiw ar y posibilrwydd o streicio.
Yng ngorsaf drydan Aberddawan ym Mro Morgannwg a safle olew Chevron ym Mhenfro, mae’r gweithwyr yn cwyno fod cytundeb cenedlaethol yn cael ei dorri – o ran cyflogau a defnydd o weithwyr tramor.
Dyma’r cam diweddara’ mewn helynt sydd wedi bod yn mud-ferwi ers misoedd ac yn arbennig ers streiciau answyddogol a chloi allan yng ngwaith cwmni tanwydd Total yn Lindsay yn swydd Lincoln.
Os na fydd yr anghydfod yn cael ei ddatrys, fe allai undebau’r GMB ac Unite alw am weithredu diwydiannol yn fuan wedi i’r cyfnod pleidleisio ddod i ben ar Fedi 1. Mae’r bleidlais hefyd yn digwydd mewn pum safle olew a thrydan arall yn Lloegr a’r Alban.
Mae’r undebau’n galw am gofrestr sgiliau ar gyfer y diwydiant adeiladu peirianyddol ac maen nhw hefyd yn cwyno fod gweithwyr tramor yn cael eu cyflogi ar draul gweithwyr Prydeinig.
Yr amserlen
• Awst 4 – yr undebau’n rhoi rhybudd o bleidlais.
• Awst 10 – stiwardiaid y ddau undeb yn trafod am ddeuddydd yn Llundain
• Awst 11 – y bleidlais yn dechrau.
• Awst 19 – trafodaethau gyda’r cyflogwyr – “y cyfle olaf” meddai’r GMB.
• Medi 1 – diwedd y bleidlais.
• Medi – streicio posib
Barn yr undeb
“Mae’r gweithwyr yn y diwydiant yma weddi diodde’ o reoli dychrynllyd ac weid gorfod gwrando ar gelwyddau cyson.” – Phil Davies, Ysgrifennydd Cenedlaethol y GMB.
“Nod yr anghydfod hwn yw cael gwared ar wahaniaethu, ar driniaeth annheg ac ar gymryd mantais o weithwyr. Nid anghydfod am weithwyr tramor, ond am degwch.” – Paul Kenny, Ysgrifennydd Cyffredinol y GMB.
Llun: Gwefan npower Aberddawan