Mae 260 o bobl wedi cael eu hachub o dirlithriad wnaeth gladdu pentre’ cyfan ar Ynys Taiwan.

Wedi’r tirlithriad roedd ‘na adroddiadau y gallai cannoedd o bobol fod ar goll.

Dywedodd un pentrefwr wrth asiantaethau newyddion lleol fod 600 o bobol ar ôl.

“Roedd rhan o’r mynydd wedi cwympo ar y pentre’,” meddai. “Mae wedi cuddio rhan fawr o’r pentre’ gan gynnwys ysgol gynradd a llawer o dai.”

Fe gafodd y tirlithriad yn Shiao Lin ei achosi oherwydd teiffŵn Morakot a 80 modfedd o law.

Cyn y trychineb yn Shiao Lin heddiw, roedd awdurdodau wedi cyhoeddi bod o leia’ 41 o bobol wedi marw a bod 60 ar goll ar ôl i’r teiffŵn daro.

China

Mae adroddiadau hefyd fod chwech neu saith bloc o dai wedi cael eu chwalu yn China gan gorwyntoedd a bod llawer o bobol ar goll yno hefyd.

Cyn chwalfa’r tai, roedd tua naw wedi marw yn China oherwydd y corwynt, â 22 wedi’u lladd yn Indonesia.

Damwain Hofrennydd

Fe wnaeth hofrennydd a oedd yn cario pum person a nyrs ar ei bwrdd daro mynydd wrth geisio achub pentrefwyr yn Nhaiwan, a hynny ar ôl i deiffŵn Morakot ddinistrio’u cartrefi.

Yn ôl sianeli teledu’r wlad, cafodd gweddillion yr hofrennydd eu gweld mewn dyffryn.

Fe wnaeth yr hofrennydd ddod lawr wrth ymdrechu i achub trigolion Sandimen, ardal fynyddog yn ne swydd Pingtung.