Fe ddylai’r Llywodraeth fod yn gweithio’r un mor galed i gael gwared ar dlodi pensiynwyr ag y maen nhw gyda thlodi plant.

Dyna farn Pwyllgor Dethol yn y Senedd, sy’n dweud fod 2 filiwn o bensiynwyr yn byw mewn tlodi ac 1.1 miliwn yn cael llai na hanner y cyfartaledd cyflog.

Ddylai pobol ddim wynebu “bywyd o dlodi ar ôl ymddeol”, meddai’r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau wrth alw am ei gwneud hi’n haws i bensiynwyr hawlio budd-daliadau.

Dim digon yn hawlio

Roedd Credyd Pensiwn wedi gwneud llawer o les, meddai’r ASau, ond roedd rhy ychydig o bensiynwyr yn ei hawlio, ac roedd yr un peth yn wir am fudd-dal tai a budd-dal treth cyngor.

“Byddai cynyddu’r nifer sy’n hawlio’r tri budd-dal yna yn gwneud llawer i leihau tlodi pensiynwyr,” meddai’r adroddiad.

Maen nhw’n gofyn am gynlluniau i gynyddu’r niferoedd ac yn argymell cael un llinell ffôn i ddelio gyda’r tri.

Maen nhw hefyd yn galw am bron ddyblu’r budd-dal sy’n cael ei roi i bobol oedrannus mewn cartrefi – o £21.90 i £40 yr wythnos.

Dim rhaid ymddeol yn 65

Roedd yna ddau argymhelliad pwysig arall:

• Dileu’r rheol sy’n gorfodi pobol i ymddeol yn 65 – byddai oedi cyn dechrau hawlio pensiwn y wladwriaeth yn golygu ei fod gryn dipyn yn uwch am weddill eu hoes.

• Dylai budd-dal ar gyfer anabledd fod yr un pet hi bobol cyn ymddeol ac wedyn.

Ac roedd yna un rhybudd – “Yn y gorffennol, mewn dirwasgiad economaidd, mae mwy na’u siâr o bobol dros 50 oed wedi colli eu gwaith a heb weithio fyth wedyn. Rhaid i’r Adran (Waith a Phensiynau) wneud yn siŵr nad yw hynny’n digwydd eto.”

Rhwng 1997 a 2004, fe gafwyd cwymp mawr yn nifer y pensiynwyr mewn tlodi ond, ers hynny, mae’r gyfran wedi aros yn gyson.