Wrth i achos dadleuol barhau tros iawndal i ddau filwr, mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn wedi cyhoeddi y bydd yna arolwg o’r holl system.
Mae Bob Ainsworth wedi ymateb i feirniadaeth ynglŷn â’r achos trwy ddechrau’r arolwg ar unwaith, yn hytrach na’r flwyddyn nesa’.
Yn ôl y gwrthbleidiau, mae’n dro pedol ar ran y Llywodraeth, gan eu bod nhw yn galw ers tro am arolwg buan.
“Alla’ i ddim caniatáu i sefyllfa barhau lle mae’r cyhoedd yn gallu amau ymrwymiad y Llywodraeth i’n milwyr,” meddai Bob Ainsworth.
“Oherwydd safon gofal meddygol, mae mwy a mwy o bobol yndod tros anafiadau difrifol iawn. Rhaid i ni wneud yn siŵr fod y cynllun yn ddigon hyblyg i ymateb iddyn nhw.”
Eisiau gostwng iawndal
Ers dydd Mawrth, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dechrau ar apêl yn erbyn yr iawndal sydd wedi’i roi i ddau filwr – maen nhw’n gofyn am ostyngiad sylweddol.
Fe gafodd y milwyr iawndal ychwanegol ar ôl cael problemau meddygol pellach yn sgil eu hanafiadau – yn ôl y Llywodraeth, fe ddylai iawndal fod ar gyfer yr anafiadau cychwynnol, a dim arall.
Maen nhw wedi cael eu beirniadu’n hallt am eu hagwedd.