Fe fydd yr ymchwiliad i Ryfel Irac yn dechrau yn Llundain heddiw – gyda’r hawl i edrych ar yr hanes o’r dechrau i’r diwedd.

Cam cynta’ cadeirydd y panel, Syr John Chilcot, fydd egluro beth yn union fydd hyd a lled yr ymchwiliad a sut y bydd yr ymchwiliad yn digwydd.

Mae disgwyl iddo barhau am tua blwyddyn, gyda’r rhan fwya’ o’r cyfarfodydd yn gyhoeddus, a ffigurau amlwg fel y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, yn cael eu galw i roi tystiolaeth.

Fe fu’n rhaid i’r Llywodraeth ildio fwy nag unwaith ynglŷn â manylion y trefniant – gan gynnwys yr hawl i’w gynnal yn gyhoeddus a’r hawl i roi bai ar unigolion.

Mynd ymhellach

Fe fydd hefyd yn mynd yn llawer pellach nag unrhyw un o’r ymchwiliadau llai sydd wedi bod eisoes:

• Fe fydd yn edrych ar y rhesymau tros fynd i’r rhyfel yn 2001, gan gynnwys yr honiadau am arfau torfol Saddam Hussein.

• Fe fydd yn ystyried pa mor drylwyr oedd y paratoi ar gyfer y cyfnod wedi’r ymladd cynta’.

• Fe fydd yn holi am yr adnoddau a gafodd milwyr gwledydd Prydain ac effeithiolrwydd y lluoedd arfog.