Mae cyfreithiwr amlwg yn rhybuddio y gallai argymhelliad gan aelodau seneddol danseilio mesurau iaith y Cynulliad.
“Fe fyddai gosod amodau ar allu’r Cynulliad i ddeddfu yn yr eLCO arfaethedig yn golygu fod penderfyniad barnwr mewn llys yn bwysicach na barn y Cynulliad ei hun, meddai Emyr Lewis.”
Fe allai’r argymhelliad – gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Llundain – arwain at frwydro cyfreithiol tros yr iaith ac agor y drws i osod amodau tebyg ar fesurau eraill yn y dyfodol.
Mewn erthygl yng nghylchgrawn Golwg, mae’n dweud fod awydd yr ASau i dawelu ofnau rhai ym myd busnes wedi arwain at argymhelliad a allai wanhau grym y Cynulliad a “gweddnewid natur y setliad datganoli”.
Y broblem, meddai, yw fod y Pwyllgor Dethol, wrth gefnogi’r syniad o roi hawliau deddfu ar y Gymraeg i’r Cynulliad, hefyd yn dweud fod eisiau cael “egwyddorion clir” yn feini prawf arnyn nhw.
Yr egwyddorion hynny yw – eu bod yn rhesymol, eu bod yn gymesur â’r angen ac yn effeithiol o ran cost.
Yn ôl Emyr Lewis, fe fyddai hynny’n rhoi cyfle hawdd i bobol herio’r mesurau yn y llysoedd: “Byddai barnwr yn gallu dyfarnu fod Mesur yn ymwneud â’r iaith Gymraeg am nad yw, yn ei farn ef, yn rhesymol. Byddai barn y barnwr yn drech na barn cynrychiolwyr etholedig pobol Cymru.”