Fe fydd un o ffatrïoedd enwoca’ gogledd Cymru yn cau heddiw ar ôl mwy na hanner can mlynedd yn yr ardal.
Mae mwy na 300 o bobol yn colli eu gwaith gydag Indesit ym Modelwyddan ond ar un adeg, o dan yr enw Hotpoint, roedd y cwmni’n cyflogi mwyn na 2,000 yn yr ardal.
Er bod y cwmni’n rhoi’r bai ar ddirywiad yn y galw am gynnyrch y ffatri, mae undeb Unite yn eu cyhuddo o symud y gwaith i ffatri newydd yng ngwlad Pwyl.
Y ffatri ym Mharc Kinmel oedd un o brif weithfeydd cynhyrchu’r gogledd ac un o gyflogwyr preifat pwysica’ Sir Ddinbych.
• Doedd yna ddim newyddion da i weithwyr yn Ynys Môn chwaith wrth i gyfarfod rhwng gwleidyddion a chwmni Alwminiwm Môn ddod i ben heb unrhyw ateb newydd. Mae bron 400 o weithwyr yn debyg o golli eu swyddi yno.