Mae perthnasau gwystl o Gymru wedi apelio am i’r herwgipwyr ei anfon adref – er eu bod nhw wedi cael rhybudd gan y Llywodraeth ei fod fwy na thebyg yn farw.

Roedd Alec MacLachlan o Lanelli ymhlith pump o ddynion a gafodd eu cipio gan grŵp Islamaidd ym mis Mai 2007 a chafodd ei deulu wybod yn ystod y dyddiau diwetha’ nad oes fawr o obaith ei fod yn fyw.

Cafodd cyrff dau o’r gwystlon eu trosglwyddo i awdurdodau Irac ym mis Mehefin eleni a’r gred yw fod Alan MacLachlan wedi ei ladd yr un pryd.

Y grŵp sy’n hawlio cyfrifoldeb am gipio a dal y dynion yw Islamic Shiite Resistance yn Irac – eu nod oedd eu cyfnewid am rai o’u haelodau nhw sy’n garcharorion. Mae’r Unol Daleithiau’n credu bod y grŵp yn cael eu rheoli gan Iran.

Apêl teulu

Yn ôl Hailey Williams, cyn gariad Alec MacLachlan a mam i’w blentyn, dyma’r newyddion gwaethaf posib.

Dyma’i neges i’r herwgipwyr:

“Beth bynnag yw cyflwr Alec, ni ddylai aros yn Irac. Rydym yn apelio i’r rhai hynny sy’n ei ddal i’w anfon e’ adref aton ni.

“Rwy’n siarad gyda’ch fel mam mab Alec. Nid ni sy’n dal eich dynion chi. Pe byddai unrhyw ddylanwad gennym ni i ryddhau eich dynion, fydden ni’n gwneud hynny. Ond does dim dylanwad gyda ni. Plîs anfonwch e’ adref oherwydd dyw’r teulu ddim yn gallu ymdopi gyda hyn”.

Llun: Helen MacLachlan (chwith) a Hailey Williams (Gwifren PA)