Mae ‘na adroddiadau fod Portsmouth ddim yn bwriadu gwneud cynnig am Ross McCormack wedi’r cyfan, ar ôl cysylltu gyda Chaerdydd ddoe.

Roedd clwb yr Uwch Gynghrair wedi gwneud ymholiadau am bris yr Albanwr, ac mae’n debyg bod Caerdydd yn fodlon gwerthu eu prif sgoriwr am £5m.

Ond yn ôl y Western Mail, mae’n debyg nad yw Paul Hart, rheolwr Pompey am barhau gyda’i diddordeb yn yr ymosodwr. Mae hyn er bod £9m gan Hart i wario ar ôl i Peter Crouch arwyddo i Tottenham.

Mae disgwyl i Ross McCormack fod yn rhan o garfan Caerdydd fydd yn wynebu Valencia mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.