Mae Monty Panesar wedi cael ei adael allan o garfan Lloegr i wynebu Awstralia yn y trydydd prawf sy’n cychwyn yn Edgbaston yfory.

Roedd sïon bod Lloegr am chwarae dau droellwr, ond mae’n debyg bod y tywydd gwlyb wedi newid y cynlluniau hynny.

Bydd Panesar yn dychwelyd i chwarae i Swydd Northampton yng nghystadleuaeth yr 20 pelawd.

Pryderon ffitrwydd

Roedd ’na bryderon ynglŷn â ffitrwydd Andrew Flintoff, Ian Bell a Graham Onions. Ond mae capten Lloegr, Andrew Strauss, wedi cadarnhau fod y tri chwaraewr ar gael.

Mae Strauss yn credu bod y ffaith fod nifer o chwaraewyr dylanwadol a dawnus Awstralia wedi ymddeol dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith arnyn nhw.

Dywedodd y capten bod Awstralia wedi colli eu “awra”.

Ond mae capten Awstralia, Ricky Ponting, wedi dweud ei fod e’ a’i dîm am gymryd mantais o absenoldeb Kevin Pietersen o garfan Lloegr a tharo nôl.