Mae Morgannwg wedi enwi carfan 12 dyn i wynebu Swydd Caerloyw yn Adran Dau, Pencampwriaeth y Siroedd ym Mryste ddydd Gwener.
Yr unig newid i’r garfan yw fodWill Bragg yn cymryd lle Ben Wright.
Dyw Morgannwg heb chwarae ers i’w gêm ddiwethaf yn erbyn Swydd Caint ar 19 Gorffennaf yn y gystadleuaeth Pro40 gael ei chanslo oherwydd y glaw.
Mae Morgannwg yn dal yn edrych am eu buddugoliaeth gyntaf o’r bencampwriaeth. Hyd yma, maen nhw wedi chwarae wyth gêm, gan golli chwech â chael dwy gêm gyfartal.
Carfan Morgannwg
Gareth Rees
Herschelle Gibbs
Will Bragg
Michael Powell
James Dalrymple
Mark Wallace
James Harris
Robert Croft
Dean Cosker
David Harrison
Adam Shantry
Garnett Kruger