Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Feddygol Prydain (CFP), mae’r ffaith fod rhai meddygon ifanc yn gweld Cymru fel “gwlad trydydd byd” yn un rheswm am y diffyg doctoriaid yn y wlad.
Daeth sylw John Jenkins ar ôl i Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda rybuddio fod ysbytai de orllewin Cymru yn wynebu prinder difrifol o feddygon, efo 62 o swyddi gwag yn yr ardal ar hyn o bryd.
Mae CFP a Llywodraeth Cymru wedi dweud fod newidiadau i reolau mewnfudo yn rhannol gyfrifol am y diffyg, ond yn ôl John Jenkins, mae delwedd Cymru i feddygon ifanc o’r tu allan i’r wlad yn reswm arall am y prinder.
Dywedodd fod argraff gan rai doctoriaid fod Cymru yn “wlad trydydd byd” sydd ddim yn cynnig siopau tebyg i “M&S”.
Hefyd dywedodd fod rhai yn credu bod y gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol, a bod cred fod diffyg mewn cyfleoedd cymdeithasol a phroffesiynol yn ysbytai llai gorllewin Cymru, o’i gymharu â’r cyfleoedd sydd yna mewn dinasoedd sydd ag ysbytai mawr, megis Caerdydd.
Yn ogystal, dywedodd y gallai’r ffaith fod meddygon yn treulio eu blwyddyn gyntaf mewn gwaith yn symud o un ysbyty i’r llall bob pedwar mis gael effaith hefyd.
Yng Nghymru, fe allai hynny olygu symud cartref yn aml, sy’n anymarferol i ddoctoriaid sydd â theuluoedd.
Mae’r sefyllfa yn wahanol mewn dinasoedd mawr, gan fod nifer o ysbytai fel arfer ar gael o fewn ardal fach.
Angen hyrwyddo Cymru
Dywedodd John Jenkins fod CFP eisoes wedi bod yn anfon DVD sy’n hyrwyddo Cymru i feddygon sy’n dangos diddordeb mewn gweithio yn y wlad.
Ond dywedodd taw “gwaith Llywodraeth y Cynulliad yw denu meddygon, nid CFP”, a bod yn rhaid iddyn nhw wneud mwy i hyrwyddo Cymru.
Rhybudd
Mae swyddogion Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda wedi rhybuddio y gallai’r sefyllfa yn y de orllewin olygu na fydd gwasanaethau mewn rhai ysbytai yn gallu cael eu cynnal.
Fis yma eisoes, mae dwy ward plant yn ysbytai Singleton a Threforys yn Abertawe wedi cau oherwydd diffyg staff.
Yn ôl y llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad, mae’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn gofyn am adolygiad o’r rheolau mewnfudo sy’n ymwneud â doctoriaid.