Dyw defnyddwyr band eang Cymru ddim yn cael y cyflymder ar y rhyngrwyd y maen nhw’n talu amdano, yn ôl Ofcom.

Roedd eu hadroddiad yn ymchwilio i brofiadau 1,600 o ddefnyddwyr band eang ar draws Prydain.

Darganfu’r adroddiad bod y gwasanaeth band eang yng Nghymru’n fwy araf ar gyfartaledd na gweddill gwledydd Prydain.

Ar gyfartaledd mae cyflymder lawrlwytho yng Nghymru’n 3.3 Mbit/s o’i gymharu â 3.5Mbit/s yn yr Alban, 4Mbit/s yn Lloegr a 4.1/s Mbit yng Ngogledd Iwerddon.

Dangosodd yr adroddiad fod llawer yng Nghymru’n gorfod bodloni â gwasanaeth arafach.

Doedd 20% o ddefnyddwyr Cymru ddim hyd yn oed yn derbyn gwasanaeth 2Mbit/s –y safon cyflymder isaf.

Roedd 5% o’r rheini yn derbyn gwasanaeth 1Mbit/s.

Fe wnaeth adroddiad ‘Prydain Ddigidol’ Arglwydd Carter argymhell y dylid cyflwyno ac ymrwymo i safon cyffredinol o 2Mbit/s ledled Prydain erbyn 2012.

Mae’r Llywodraeth wedi addo cwrdd â’r ymrwymiad hwnnw.

Fe wnaeth Is-weinidog y Diwydiannau Creadigol, Siôn Llewelyn Simon, gyfaddef yr wythnos diwethaf nad oedd Cymru wedi cael y gorau o fand eang.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth dargedu yr ardaloedd heb gyswllt gwe os ydyn nhw eisiau gwireddu eu hymrwymiad cyffredinol a gwella cyflymder cysylltiadau,” meddai.