Mae Felipe Massa wedi lwyddo i agor y llygad a wnaeth e’i anafu yn y ddamwain ddydd Sadwrn diwethaf, ac mae’n gallu gweld allan ohono.

Mae’r gyrrwr Fformiwla Un wedi cael ei symud allan o’r uned gofal dwys, ac mae ei feddyg personol yn ffyddiog y bydd Massa yn rasio unwaith eto.

Fe gafodd Massa ei daro ar ei helmed gan sbring oddi ar gar Rubens Barrichello wrth gystadlu yn y ras ragbrofol.

Mae’n debyg i’r ergyd ei daro yn anymwybodol. Fe wnaeth y car barhau i fynd mewn llinell syth oddi ar y trac cyn taro rhwystr teiars ar gyflymder o tua 170 milltir yr awr.

Fe dorrodd ei benglog ac roedd mewn cyflwr difrifol ond sefydlog am rai diwrnodau.

Gwella

Ond mae’r meddygon oedd yn trin Massa wedi cyhoeddi ei fod yn gwella’n araf o’i anafiadau.

Dywedodd Peter Bazso, cyfarwyddwr meddygol Ysbyty Milwrol AEK yn Budapest, y gallai Massa gerdded allan o’r ysbyty o fewn deg diwrnod.

Cyhoeddodd Luca Colajanni, llefarydd ar ran Ferrari:

“Y peth pwysicaf yw bod Felipe allan o’r uned gofal dwys ac erbyn hyn mewn ystafell breifat ei hun.

“Mae’n siarad fel arfer, fwy neu lai, ac mae wedi cymryd ei gamau cyntaf wedi’r ddamwain. Ar yr ochr feddygol, mae popeth yn symud i’r cyfeiriad cywir.”

‘Gyrrwr Ferrari o hyd’

Mae Pennaeth Ferrari, Stefano Domenicali, wedi dweud nad oes unrhyw rwystr i Massa ddychwelyd i rasio dros Ferrari. Roedd yna son y byddai’r tîm yn chwilio am yrrwr arall i gymryd lle’r gŵr o Frasil.

“Rwyf wedi cadarnhau ein bod yn edrych ‘mlaen i’w gael ‘nôl a fe sydd â’r car. Cyn gynted y bydd yn barod i ddychwelyd, fydd e’ ‘nôl gyda ni,” meddai Domenicali.

Mae ‘na son bod Michael Schumacher yn mynd i ddychwelyd i yrru dros Ferrari am weddill y tymor tra bod Massa yn gwella. Dyw Ferrari heb gadarnhau hyn, ond fe ddywedodd eu llefarydd ei fod yn bosibilrwydd.