Mae sefydliad dyngarol y Gyngres Hawliau Sifil yn dweud bod tua 400 o bobol wedi marw mewn gwrthdaro ar draws o leiaf pedair talaith yng ngogledd Nigeria.

Dechreuodd y trais nos Sul, pan wnaeth aelodau o grŵp radical Islamaidd, Boko Haram, ymosod ar swyddfa’r heddlu yn nhalaith Bauchi.

Mae Boko Haram yn gwrthwynebu dylanwad gorllewinol ar addysg yn y wlad, ac yn galw am sefydlu cyfraith Islamaidd – Sharia – yn Nigeria.

Mae’r brwydro wedi parhau ers nos Sul, gyda grŵp radicalaidd arall, Taliban Nigeria, yn ymuno yn yr ymladd yn erbyn y gwasanaethau diogelwch.

Does dim sicrwydd os oes gan Taliban Nigeria gysylltiad efo’r Taliban yn Afghanistan, na chwaith os oes gyda nhw gysylltiad â Boko Haram.

Yn ogystal â’r marwolaethau, mae’r Gyngres Hawliau Sifil yn honni fod cannoedd o bobol gyffredin, sydd ddim yn rhan o’r ymladd, wedi bod yn chwilio am loches ers dechrau’r ymladd.

Cyrch

Mae adroddiadau fod cannoedd o filwyr a heddlu wedi ymosod ar gadarnle Boko Haram yn ninas ogleddol Maiduguri, ddoe.

Does dim adroddiadau pendant ynglŷn â llwyddiant y cyrch, ond yn ôl gwasanaeth newyddion allAfrica, mae swyddogion wedi honni fod arweinydd y grŵp, Malam Muhammad Yusuf, wedi cael ei ladd.

Sharia yn Nigeria

Mae 12 o’r 36 talaith yn Nigeria yn ufuddhau i gyfraith Fwslemaidd Sharia ac, yn ôl y corff hawliau dynol, Human Rights Watch, fe fu gwrthdaro gwaedlyd rhwng Cristnogion a Mwslemiaid y llynedd yng ngogledd y wlad.