Mae’r pwysau ar awdurdodau Iran wedi cynyddu heddiw ar ôl honiadau fod gwasanaethau diogelwch wedi cam drin carcharorion a gafodd eu harestio yn dilyn etholiadau arlywyddol dadleuol y wlad.
Mae’r honiadau, sydd wedi eu cyhoeddi ar wahanol wefannau, yn datgan bod rhai carcharorion wedi eu curo i farwolaeth gan warchodwyr, bod ewinedd wedi cael eu rhwygo oddi ar fysedd rhai eraill, a bod rhai wedi cael eu gorfodi i lyfu tai bach budr.
Yn ôl y New York Times, mae rhai clerigwyr ceidwadol yn Iran yn anniddig am yr honiadau, ac wedi rhybuddio fod derbyn camdriniaeth o’r fath yn peryglu’r ffordd mae Iran yn cael ei llywodraethu.
Rhyddhau carcharorion
Yr wythnos yma, rhyddhawyd 140 o garcharorion a gafodd eu harestio yn dilyn yr etholiad arlywyddol, ac fe wnaeth prif arweinydd Iran, Ayatollah Ali Khamenei, orchymyn cau carchar dadleuol Kahrizak – carchar nad oedd yn cael ei reoli gan sefydliad carchardai’r wladwriaeth.
Yn ogystal, cymrodd yr Arlywydd Mahmoud Ahmadinejad y cam anarferol o ysgrifennu llythyr at awdurdodau barnwrol Iran, yn gofyn am “drugaredd Islamaidd” i’r carcharorion “sydd wedi eu dal am gyfnod hirach na’r hyn sy’n arferol”.
Ahmadinejad yn gwanhau?
Mae arwyddion fod awdurdod yr Arlywydd Mahmoud Ahmadinejad wedi pylu ychydig, wedi i rai o’i gefnogwyr traddodiadol ddechrau ei feirniadu.
Mae’r Arlywydd wedi cael ei gondemnio’n hallt am geisio anwybyddu gwrthwynebiad Ayatollah Ali Khamenei i’w ddewis o Is Arlywydd.
Mae gwrthwynebiad hefyd i’w gynlluniau i geisio tawelu protestwyr a diwygwyr drwy ddarlledu cyfaddefiadau carcharorion gwleidyddol.