Mae rheol newydd sy’n gwahardd unrhyw un â swydd llawn amser rhag gyrru bocsys ceffylau dros y penwythnos yn groes i synnwyr cyffredin, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.
Cyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd, sy’n rheoli oriau gwaith gyrwyr cerbydau nwyddau, sydd wedi codi gwrychyn y Ceidwadwyr.
Yn y gorffennol, dim ond gyrwyr oedd yn gweithio yn y sector fasnachol oedd yn cael eu heffeithio gan y rheolau yma, ond nawr mae mwy o bobol yn debygol o orfod cydymffurfio gyda’r gyfarwyddeb newydd.
Yn ôl Brynle Williams, AC, dyw’r ffordd mae Llywodraeth San Steffan wedi dehongli’r gyfarwyddeb ddim yn gwneud synnwyr.
Bydd yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr nawr yn gofyn am dystiolaeth bod gyrwyr cerbydau bocsys ceffylau wedi cael 45 awr o orffwys cyn gyrru ar y penwythnos.
“Abs?rd”
“Nid dim ond y maes ceffylau fydd yn cael eu heffeithio gan y mesur hwn, bydd effaith i’w weld ar amryw o chwaraeon amatur eraill sy’n ddibynnol ar ddefnyddio wagenni dros 7.5 tunnell,” dywedodd Brynle Williams.
Er ei fod yn deall amcan y mesurau hyn ar yrwyr cerbyd nwyddau trwm, yn ei feddwl ef mae’n “abs?rd” disgwyl i bobl gyffredin gydymffurfio â’r un rheoliadau.
Gallai’r mesur hwn “ladd sioeau sirol” led-led y wlad meddai Brynle Williams, gan ychwanegu: “Mae’n rhaid defnyddio ychydig o synnwyr cyffredin fan hyn.”