Yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones yn lansio apêl i ddiogelu wal enwog rhwng Aberystwyth a Llanrhystud yng Ngheredigion.
Mae’r wal ‘Cofiwch Dryweryn’ oedd yn arfer bod yn rhan o dyddyn yn enwog ymysg cenedlaetholwr fel symbol o’r frwydr dros hunanreolaeth.
Cofgolofn answyddogol yw’r mur i bentre Capel Celyn ger y Bala a foddwyd i ddiwallu anghenion dŵr Lerpwl.
Bwriad yr apêl yw codi £80,000 er mwyn prynu’r wal a thir o’i hamgylch a gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw.
Ar ôl codi’r arian bydd Cadw yn cyfrannu £30,000 a bydd y wal yn cael ei phrynu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ran y genedl.
‘Dirywio’
Mae’r awdur a’r beirniad llenyddol Meic Stephens bellach wedi hawlio cyfrifoldeb am baentio’r wal gyda’r slogan enwog.
Roedd Cyngor Cymuned Llanrhystud am achub y wal ond oherwydd y wasgfa ariannol roedden nhw’n gyndyn o gael eu gweld yn gwario arian cyhoeddus ar achub wal.
Yn ddiweddarach penderfynodd Cymro di-Gymraeg o Abertawe sy’n rheolwr eiddo gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanarchaeron fynd ati i geisio ei achub.
“Oeddwn i’n gweld y wal yn dirywio ers blynyddau ac mae’r neges mor gryf ac yn crynhoi pam dw i’n meddwl bod Cymru yn wahanol,” meddai Paul Boland.
Darllenwch weddill yr hanes yng nghylchgrawn Golwg, Gorffennaf 30