Nid Sylw yw’r unig gylchgrawn newydd Cymraeg fydd yn cystadlu am sylw ar faes yr Eisteddfod eleni.
Bydd cylchgrawn newydd 32 tudalen am fro’r Eisteddfod, Wa-w!, hefyd yn cael ei werthu ar faes y Bala.
Bydd cyfarfod arbennig i groesawu Wa-w! ar y maes yng nghwmni’r golygydd, Lowri Rees-Roberts am 11 y bore dydd Llun.
Be sydd ynddo, wa?
Genynnau Dewi Prysor, Rhys Anweledig yn jêl, y Brenin Arthur yng Nghefnddwysarn, a neges gan ysbrydion o gae’r steddfod, fydd rhai o’r pynciau dan sylw.
“Rhifyn cyntaf ydi hwn ond mae syniadau’n cyniwair yn barod ar gyfer ail rifyn,” meddai Lowri Rees-Roberts – gwraig fferm a mam i dri o blant a fu’n ohebydd i’r Cymro.
Dywedodd Lowri Rees-Roberts mai’r bwriad yn wreiddiol oedd paratoi cylchgrawn ysgafn, darllenadwy, ar gyfer yr Eisteddfod yn unig.
Ond sylweddolodd bod mwy o ddyfodol na hynny i’r syniad ac mae’n addo mwy o Wa-w! yn ystod y flwyddyn i ddod.
“Gan bod yr Eisteddfod yn ymweld â’r Bala rhyw syniad bach gwyllt oedd y fenter i ddechrau,” meddai. “Mae’r cylchgrawn yn wahanol i unrhyw beth sydd ar y farchnad ar hyn o bryd a’r gobaith yw y bydd yr erthyglau yn ennyn diddordeb pawb mewn cymdeithas.
“Fy mwriad yw sicrhau cylchgrawn ar gyfer y teulu gydag erthyglau ar gyfer darllenwyr ifanc a darllenwyr hŷn,” meddai.
Fe gafodd gefnogaeth gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd gwledig.