Mae Pwyllgor trwyddedu Cyngor Wrecsam wedi rhoi sêl bendith ar gynlluniau i droi adeilad yn Mount Street yn siop ddillad rhyw i oedolion – er mai dyna fan geni milwr a oroesodd y Charge of the Light Brigade.
Roedd Sergeant Major Edwin Hughes, “Balaclava Ned”, yn rhan o’r cyrch enwog yn ystod Brwydr Balaclava yn Rhyfel y Crimea yn 1854 pan ymosododd marchogion Prydeinig ar ar fagnelau’r Rwsiaid. Cafodd 272 o’r 673 o filwyr Prydeinig eu lladd.
Cafodd yr ymosodiad ei goffau yn y gerdd Saesneg enwog yr Arglwydd Tennyson, ‘The Charge of the Light Brigade’.
Cafodd Edwin Hughes ei eni yn Stryd Mount, Wrecsam, yn 1830 yn fab i weithiwr tunplat. Ef oedd yr ola’ o filwyr y cyrch i farw, yn 1927.
Mae’r drwydded ar yr adeilad yn amodol, yn ôl swyddog trwyddedu’r cyngor. Ni fydd y cwmni’n cael arddangos deunydd gwerthu na rhoi unrhyw awgrym o natur y siop yn y ffenest.
Cafodd y cais ei wneud gan gwmni Fantasy Lounge.