Cafodd cyn fodel gerdded yn rhydd o lys ym Manceinion ddoe, er gwaetha’r ffaith ei bod wedi cyfaddef iddi dorri’r gyfraith drwy briodi bum gwaith, heb yr un ysgariad.
Cafodd Emily Horne ei disgrifio gan y barnwr Mushtaq Khokhar fel “dynes graff a oedd yn tanseilio gwerth priodas” a chafodd ddedfryd o ddeg mis yn y carchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd.
Roedd y ddynes o Kingswinford yng ngorllewin y Midlands wedi priodi pum dyn yn ystod y 13 blynedd diwetha’. Dim ond ei phriodas gyntaf yn ôl yn 1996 sy’n gyfreithlon.
Clywodd y llys fod ganddi ddiffyg yn ei phersonoliaeth ond roedd y barnwr yn credu ei bod wedi gwella yn ystod y chwe mis diwethaf.
“Troi’n lleian”
Dywedodd Emily Horne wrth y ‘Times Online’ ei bod yn “hoffi gwneud pobol yn hapus”. Ond mae hi wedi cytuno i yrru ei holl fodrwyau priodas yn ôl ac yn ystyried troi’n lleian.
Roedd wedi newid ei henw ar dystysgrifau priodas i osgoi cael ei dal. Roedd Emily Horne eisoes wedi cael ei charcharu am y drosedd yn ôl yn 2004.