Mae chwaraewr amryddawn tîm criced Lloegr, Andrew Flintoff, wedi bod yn son am y driniaeth fydd angen arno fe er mwyn sicrhau y bydd e’n iach i chwarae yn y trydydd prawf yng nghyfres y Lludw yr wythnos yma.

Mae Flintoff wedi bod yn cael trafferth gydag anaf i’w ben-glin, ac er mwyn ei helpu i chwarae yn y prawf ddydd Iau mae e’ wedi gorfod defnyddio peiriant arbennig sy’n rhoi gwasgedd ar ei ben-glin pan mae e’n cysgu.

Ac mae’r chwaraewr o’r farn bod y peiriant yn gwneud ei waith, ac yn hyderus y bydd e’n iach i chwarae ar faes Edgbaston, Birmingham.

“Wedi’r prawf diwetha’ roedd y ben-glin yn boenus,” meddai. “Ond rwy wedi bod yn rhoi rhew arni ac wedi bod yn cael triniaeth ffisiotherapi yn ogystal.”

“Rwy’ hefyd wedi bod yn gwneud ychydig o waith yn y gampfa i wella ffitrwydd.

“Mae’r peiriant ‘ma rwy’n defnyddio pan rwy’n cysgu yn gallu bod ychydig yn drafferthus. Mae’n rhoi pwysau ar y benglin am hanner awr, bob awr.”

Mae Flintoff wedi gwadu honiadau y bydd rhaid iddo fe golli’r pedwerydd prawf – fydd yn dechrau bedwar diwrnod wedi i’r trydydd un orffen. Mae’n dweud ei fod yn ffyddiog y bydd yn chwarae ymhob un o’r pum prawf.