Mae lesbiaid yn China yn dod ynghyd i gefnogi deiseb ar-lein sy’n brwydro yn erbyn “annhegwch at roddwyr gwaed hoyw a lesbaidd”.
Yn ôl y China Daily, mae’r ddeiseb yn gofyn i’r Llywodraeth gael gwared â chyfraith o 1998 sy’n gwahardd y gymuned hoyw rhag rhoi gwaed.
Mae 540 o bobol wedi arwyddo’r ddeiseb hyd yn hyn ac maen nhw’n anelu at gyrraedd y 1,000.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Croes Goch Beijing nad oedden nhw o blaid diddymu’r gyfraith gan fod y gymdeithas hoyw’n llawer mwy tebygol o gario clefydau rhywiol.
Mae’r llywodraeth a UNAIDS yn amcangyfrif bod tua 700,000 o bobol yn byw gyda HIV yn China a bod 85,000 o’r rheiny’n cario AIDS.
Nid yw bod yn hoyw yn erbyn y gyfraith yn China ond mae’n parhau i fod yn dabŵ cymdeithasol mewn rhai ardaloedd.