Mae’r Llywodraeth wedi cael eu beirniadu gan Dŷ’r Arglwyddi am fethu â sicrhau y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn gallu delio ag ‘ail don’ o’r ffliw moch yn yr hydref.

Mae Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Arglwyddi hefyd wedi beirniadu gweinidogion am beidio â chreu gwasanaeth ffliw cenedlaethol yn gynt.

Mae gwasanaeth dros dro yn bodoli erbyn hyn ond roedd cymaint o ofyn fe wnaeth y wefan dorri o fewn y munudau cyntaf.

Dywedodd y pwyllgor eu bod nhw wedi synnu faint o wasanaethau i ymdopi â ffliw moch oedd “ar gychwyn” ym mis Mawrth eleni, a bod y gwasanaeth ar lein yn “un esiampl arwyddocaol”.

Dim ond 1,500 o bobol oedd yn gweithio ar y gwasanaeth ffon, meddai’r pwyllgor, allan o’r 7,500 oedd wedi ei addo’n wreiddiol.

“Rydym ni eisiau i’r llywodraeth dawelu ein meddyliau ni y bydd gwasanaeth gwell ar gael erbyn yr hydref mewn da bryd i wynebu her ton newydd o’r ffliw.”