Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn apelio yn erbyn dyfarniad iawndal a wnaed i ddau filwr a anafwyd mewn rhyfel ac wrth ymarfer.
Yng Nghymru, mae cyn-filwyr fel yr Uwch-gapten Alan Davies a’r gwleidydd Rod Richards wedi condemnio’r penderfyniad.
Fe ddywedodd y ddau wrth Radio Cymru y dylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn fod yn parchu’r dyfarniad ac yn talu.
Sail yr apêl yw fod y ddau filwr wedi cael iawndal ychwanegol ar ôl iddyn nhw gael cymhlethdodau pellach – honiad y Llywodraeth yw mai dim ond am yr anafiadau gwreiddiol y dylen nhw gael eu talu.
Yn wreiddiol, cafodd Anthony Duncan, sydd yn awr ar faglau ar ol cael ei saethu yn Irac, iawndal o £9,250. Yna, mewn tribiwnlys apeliadau cafodd y swm ei gynyddu i £46,000.
Roedd Matthew Mc Williams wedi anafu ei glun mewn ymarfer milwrol ac fe godwyd ei iawndal ef o £8,250 i £28,750.
Yn y Llys Apêl, fe fydd cyfreithwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dadlau na ddylai’r milwyr dderbyn iawndal am y cymhlethdodau diweddarach a ddaeth yn sgil yr anafiadau gwreiddiol.