Fe honnodd swyddog cyfreithiol yn Los Angeles fod meddyg Michael Jackson wedi rhoi anaesthetig cryf i’r canwr ychydig cyn iddo farw.
Ond mae cyfreithwyr Conrad Murray yn gwrthod ymateb gan ddweud mai ensyniadau a sîon di-sail yw’r honiadau a hynny o ffynhonnell ddienw. Maen nhw’n mynnu na roddodd ddim i Michael Jackson a allai ei ladd.
Mae’r swyddog wedi gwrthod datgelu ei enw wrth honni fod y canwr wedi derbyn cyffur trwy beiriant drip ar y noson y bu farw er mwyn ei helpu i gysgu.
Fe fu hefyd yn disgrifio ystafell wely Michael Jackson gan ddweud ei bod hi’n llawn tanciau ocsigen.
Roedd un arall o lofftydd y canwr yn “flêr” dywedodd “gyda dillad ym mhob man a nodiadau ysgrifenedig wedi eu sticio ar y waliau”. Roedd un yn dweud, “Children are sweet and innocent,” meddai.
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i farwolaeth Michael Jackson ac mae’r awdurdodau’n aros am ganlyniadau profion gwenwyn.