Mae gwylwyr y glannau yn yr Unol Daleithiau wedi cadarnhau heddiw fod llong gyda hyd at 200 o ymfudwyr o Haiti wedi dymchwel yn y môr ger de-ddwyrain y Bahamas.
Dywedodd un dyn a oroesodd y profiad fod y llong wedi taro rîff wrth iddyn nhw geisio osgoi yr heddlu.
Mae ofnau fod degau wedi marw – fe gafodd 70 eu hachub oddi ar y rîff ac mae pedwar corff wedi eu tynnu o’r môr eisoes.
Dywedodd Alces Juliena, un arall a oroesodd, fod y llong wedi bod ar y môr ers tri diwrnod pan welson nhw long heddlu a cheisio’i hosgoi.
Fe fydd ymfudwyr o Haiti yn aml yn mentro fel hyn wrth fynd i chwilio am waith yn rhai o ynysoedd eraill y Caribî.
Llun: Haiti – pobol yn gadael i chwilio am waith (Remi Kaupp – CC-BY-SA)