Mae doctoriaid yn galw am anwybyddu rheolau newydd sy’n torri ar oriau gweithio doctoriaid iau mewn ysbytai.

Yn ôl cymdeithas Remedy UK, fe fyddai cyflwyno’r newidiadau ar Awst 1 yn wallgofrwydd ynghanol pandemig ffliw moch.

O dan y cyfarwyddyd newydd gan yr Undeb Ewropeaidd, fydd gan ddoctoriaid ddim hawl i weithio mwy na 48 awr bob wythnos – gostyngiad o wyth awr ar eu horiau ar hyn o bryd.

“Mae cyflwyno newid mor sylweddol a hyn yn ystod cyfnod mor anodd yn risg ddianghenrhaid,” meddai Richard Marks, Pennaeth Polisi Remedy UK, sy’n cynrychioli bron 9,000 o feddygon.

Roedd yn hawlio fod mwyafrif doctoriaid yn erbyn y newid a fod angen arweiniad – er yg gall doctoriaid unigol wrthod ufuddhau i’r rheolau, mae hynny’n anodd mewn systemau rota, fel sydd mewn ysbytai.

“Yr amser gwaethaf un”

Roedd yr amseru’n waeth byth, meddai, oherwydd lai na phythefnos ar ôl cyflwyno gwasanaeth newydd ar-lein ac ar y ffôn i ddelio â ffliw’r moch.

“Mae miloedd o bunnau wedi cael eu gwario’n hyfforddi staff heb addysg feddygol i drin cleifion, ond ar yr un pryd mae nhw’n lleihau wythnos waith doctoriaid o ddiwrnod. Dyma’r amser gwaethaf un i wneud hyn.”