Mae’r amcangyfrifon am farwolaethau mewn ymladd yng ngogledd Nigeria yn amrywio rhwng 100 a 200.
Mae cyrffiw wedi ei osod yn ystod oriau’r nos yn rhai o daleithiau’r ardal ar ôl gwrthdaro ffyrnig rhwng yr heddlu a charfan Foslemaidd sy’n cael ei galw yn ‘Taliban Nigeria’.
Yn ôl adroddiadau asiantaethau lleol, roedd yr helynt wedi dechrau pan ymosododd rhai o ddynion ifanc mudiad Boko Haran ar swyddfa heddlu yn nhalaith Bauchi.
Er bod amheuon ymhlith pobol leol, mae’n ymddangos fod yr awdurdodau wedi cael sioc wrth i’r trais ledu i dair talaith arall gyfagos. Roedd plismyn ymhlith y rhai a ladddwyd.
Asiantaeth newyddion Xinhua sy’n rhoi’r ffigurau ucha’, gan awgrymu fod 200 wedi marw ac mae’r gwasnaeth Americanaidd CNN yn awgrymu 150.
Mae’r mudiad Moslemaidd yn cwyno bod llywodraeth Bauchi yn rhoi rhwystrau yn eu ffordd a bod agweddau gorllewinol yn llygru byd addysg yno.
Gwrthdaro crefyddol
Erbyn hyn mae 12 o’r 36 talaith yn Nigeria yn ufuddhau i gyfraith Foslemaidd Sharia ac, yn ôl y corff hawliau, Human Rights Watch, fe fu gwrthdaro gwaedlyd rhwng Cristnogion a Moslemiaid y llynedd yng ngogledd y wlad.
Map – Trwydded GNU