Fe gafodd y banciau mawr eu bygwth gydag archwiliadau gan y Swyddfa Fasnachu Teg os na fyddan nhw’n benthyg rhagor o arian i fusnesau bach.
Fe fu penaethiaid y banciau yn y Trysorlys ddoe i gyfarfod gyda’rCanghellor Alastair Darling a gweinidogion eraill.
Fe gafodd y banciau – gan gynnwys RBS, Lloyds, Barclays a HSBC – eu cyhuddo o fod yn araf yn benthyg ac o godi llogau rhy uchel.
Yn ôl y Llywodraeth, mae mwy na thraean o gwmnïau bach a chanolig yn talu llog sydd naw phwynt yn uwch na’r cyfraddau benthyg rhwng banciau a’i gilydd. Ond mae’r banciau eu hunain yn dweud bod benthyciadau i fusnesau wedi codi’n sylweddol.
Y cam nesa’ fydd cyfarfodydd un ac un rhwng y Gweinidog Bancio, yr Arglwydd Myners, a’r penaethiaid i holi’n fanwl am eu polisïau benthyca. Y bygythiad pellach fyddai galw’r Swyddfa Fasnachu Teg i mewn i gynnal ymchwiliadau.
“Rhaid i ni wneud yn siŵr fod gyda ni system fancio gystadleuol yn y wlad hon,” meddai Alastair Darling. “Rhaid i bob banc sylweddoli fod rhywun yn edrych dros eu hysgwyddau nhw.”
Llun: Y Trysorlys (James F – Trwydded GNU)