Mae myfyriwr wedi ei gadw yn y ddalfa yng Ngwlad Groeg ar gyhuddiad o ladd dyn ifanc o Gaerdydd.
Fe allai Andrew Symeou o Lundain orfod treulio rhai misoedd yn y carchar cyn wynebu achos wedi’i gyhuddo o ddynladdiad Jonathan Hiles, 18 oed, o Ogledd Llandaf.
Roedd Andrew Symeou wedi ymladd ymgais yr awdurdodau yng Ngwlad Groeg i’w estraddodi yno ar gyfer yr achos, ond fe gollodd ei apêl.
Mae’r achos yn ymwneud â digwyddiad yn 2007 mewn clwb nosy ninas Zakynthos ar ynys Zante – mae Andrew Symeou yn cael ei gyhuddo o daro Jonathan Hiles ac achosi iddo syrthio oddi ar lawr dawnsio.
Fe fydd ei gyfreithwyr yn dadlau fod heddlu Gwlad Groeg wedi ffugio tystiolaeth yn ei erbyn a fod dau o’u ffrindiau wedi cael eu cam-drin er mwyn cael gwybodaeth.