Wrth i ddau filwr arall o wledydd Prydain gael eu lladd mewn ffrwydradau gwahanol yn Afghanistan, mae pôl piniwn yn awgrymu fod pobol yn troi yn erbyn y rhyfel.
Erbyn hyn yn ôl arolwg ComRes ymmhapyr yr Independent mae mwyafrif o blaid tynnu’r fyddin yn ôl yn syth.
Mae’r ddwy farwolaeth ddiweddara’ yn golygu fod 22 o filwyr wedi marw yn Afghanistan y mis yma, wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn hawlio fod ymgyrch filwrol Crafanc y Panther wedi dod i ben yn llwyddiannus.
Bu farw un o’r milwyr yn ystod yr ymgyrch, sydd wedi hawlio bywyd deg o filwyr Prydain, tra lladdwyd y llall ar batrôl yn ardal Sangin yn rhanbarth Helmand.
Manylion yr arolwg
Dan bob pennawd bron, mae’r arolwg yn yr Independent yn dangos y farn gyhoeddus yn symud yn erbyn y rhyfel.
• Dod â’r milwyr yn ôl ar unwaith: 52% – 43% o blaid.
• Amhosib curo’r Taliban: 58% – 31% yn cytuno.
• Dim digon o offer gan y milwyr: 75% – 16% yn cytuno.
• Anfon rhagor o filwyr: 60% – 35% yn erbyn.