Mae cyrsiau Cymraeg ymhlith y rhai sy’n cael eu torri wrth i 100 o diwtoriaid rhan amser golli eu gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar ôl cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod, fe benderfynodd Cyngor y Brifysgol ddoe eu bod yn rhoi’r gorau i’r rhan fwya’ o gyrsiau addysg gydol oes mewn dyniaethau – pynciau fel llenyddiaeth, ysgrifennu creadigol, hanes a cherddoriaeth.

Mae disgwyl y bydd UCU, undeb y prifysgolion a’r colegau, yn protestio yn erbyn y toriadau sy’n golygu colli mwy na 200 o gyrsiau sy’n cael eu cyflwyno mewn canolfannau ar hyd a lled de-ddwyrain Cymru.

Mae’r Brifysgol yn rhoi’r bai ar gostau, oherwydd deddfau newydd sy’n golygu fod rhaid talu cyflogau cyfartal i weithwyr rhan amser hefyd. Maen nhw’n pwysleisio fod y rhan fwya’ o’r tiwtoriaid yn gweithio llai na 50 awr y flwyddyn i’r Brifysgol.

Fe gawson nhw’u cyhuddo o safonau dwbl gan yr Undeb, sy’n dweud fod y costau ychwanegol o tua £200,000 yn llai na chyflog Is-ganghellor y Brifysgol.

Y bwriad yw ail-sefydlu rhai cyrsiau dyniaethau, ond ddim tan 2010 ac fe fydd bron 500 o gyrsiau mewn pynciau eraill yn parhau.

Dadl y Brifysgol yw fod angen arbed arian er mwyn sicrhau dyfodol tymor hir y Ganolfan Addysg Gydol Oes.

Llun – o wefan y Brifysgol