Mae meddyg y chwaraewr pêl-droed, John Hartson, yn dweud ei fod yn cryfhau ac wedi gwella’n ardderchog ar ôl triniaeth bellach ar ei ymennydd dros y penwythnos.
Bythefnos yn ôl y cafodd cyn ymosodwr Cymru wybod bod ganddo ganser y ceilliau a fod hwnnw wedi lledu i’w ymennydd a’i ysgyfaint.
Fe gafodd lawdriniaeth frys bryd hynny ac, yn ôl Ysbyty Treforys, fe gafodd driniaeth bellach dros y Sul i lacio’r pwysau ar ei ymennydd.
Gofal
Mewn datganiad dywedodd Dr Peter Matthews, ymgynghorwr Gofal Difrifol yr Ymddiriedolaeth Iechyd leol, fod “John Hartson yn parhau i fod o dan ofal ein tîm gofal difrifol a’r niwrolegwyr yn Ysbyty Treforys”
“Gwnaed triniaeth i lacio’r pwysau ar ei ymennydd tros y penwythnos ac mae wedi gwella’n ardderchog ar ei ôl.
“Yn gyffredinol, mae John yn cryfhau’n gorfforol ac rydym yn obeithiol y bydd yn parhau i wneud hynny gyda’r gofal amlddisgyblaethol y mae’n ei dderbyn yn yr uned gofal difrifol”
“Rydym yn gobeithio y bydd mewn sefyllfa i symud ymlaen gyda’i driniaeth (cemotherapi) cyn gynted ag sy’n bosib”
Datganiad gan deulu John Hartson
“Mae John yn derbyn gofal ardderchog gan holl staff yr ysbyty ac mae ei deulu cyfan yma i roi gymaint o gefnogaeth ag y medrwn iddo”
“Rydym yn falch iawn ei fod yn gwneud ychydig o welliant ond yn sylweddoli fod ganddo ffordd bell i fynd”
“Mae’r gefnogaeth yr ydym yn ei derbyn gan ffrindiau a phobol ar draws y byd yn hwb ffantastig i ni gyd”
“Bydd y teulu yn parhau i roi’r newyddion diweddaraf trwy’r Ymddiriedolaeth ac rydym yn gofyn i’r cyhoedd a’r cyfryngau edrych ar eu gwefan am y newyddion diweddaraf am gyflwr John”