Fe fydd Cymru’n cael gwybod fory a fydd rhai o gêmau Cwpan Rygbi’r Byd yn cael eu cynnal yma yn 2015.
Fe fydd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn cyhoeddi yn Nulyn pwy fydd yn rhoi cartref i Gwpan y Byd yn 2015 a 2019.
Lloegr yw’r ffefrynnau i gynnal y bencampwriaeth yn 2015 ac, os bydd hynny’n digwydd, fe fydd Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn cael ei ddefnyddio am rai o’r gemau fel rhan o gynnig Lloegr. Ond fydd Cymru ddim yn cyd-gynnal y Cwpan.
Gwrthwynebwyr Lloegr i gynnal y gystadleuaeth yw De Affrica, Japan a’r Eidal ond Lloegr sydd wedi cael cefnogaeth y trefnwyr. Cafodd Japan ei hargymell ar gyfer cynnal y Cwpan y Byd yn 2019 – hi fyddai’r wlad gynta’ o Asia i wneud hynny.
Mae 24 aelod i’r pwyllgor bydd yn penderfynu, ac mae angen i un cynnig dderbyn 14 o bleidleisiau i fod yn llwyddiannus.