Bydd ffilm a gafodd ei chreu am £45 yn cael ei dangos mewn sinemâu ar draws gwledydd Prydain yn fuan.

Mae’r ffilm arswyd Colin, a gafodd ei ffilmio yng Nghymru a Llundain, yn mynd i gael ei dangos gan Kaleidoscope Entertainment, ac mae disgwyl iddi gael ei chyhoeddi erbyn Calan Gaeaf.

Mae Colin wedi cael ei dangos eisoes yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes, ac mae adroddiadau ei bod wedi tynnu sylw yno.

Portread yw’r ffilm o ddyn o’r enw Colin, sy’n cael ei gnoi gan zombie, a’i droi yn zombie arall.

Y cynhyrchydd

Dywedodd cynhyrchydd y ffilm, Marc Price, 30, a gafodd ei eni yn Abertawe, ei fod yn methu credu bod y ffilm yn mynd i gael ei dangos mewn sinemâu.

“Dwi’n gobeithio y bydd hyn yn annog eraill i fynd allan efo camerâu fideo a gwneud ffilmiau” meddai Marc Price. “Mae hyn yn dangos nad oes dim angen miloedd ar filoedd o bunnoedd i wneud ffilm.”