Mae Mark Hughes am symud ymlaen o’r siom o fethu ag arwyddo John Terry trwy arwyddo amddiffynnwr Arsenal Kolo Toure am £14m.
Roedd cyn hyfforddwr Cymru wedi nodi mae ei flaenoriaeth erbyn hyn yw arwyddo amddiffynwyr ar ôl prynu tri ymosodwr newydd.
Mae gan Toure, 28 oed, flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb presennol gyda’r Gunners, ac mae disgwyl i Arsenal dderbyn y cynnig.
Mae Hughes hefyd yn awyddus i arwyddo Joleon Lescott o Everton ond mae cynnig o £15m wedi cael ei wrthod eisoes.
Mae’n debyg y bydd Man City yn gwneud cynnig arall amdano – o bosib yn cynnwys Nedum Onuoha fel rhan o’r ddêl.