Mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins wedi dweud nad oes gan y clwb unrhyw fwriad i ail arwyddo’r ymosodwr Lee Trundle.
Daw hyn ar ôl i chwaraewr Ipswich Pablo Counago wrthod ymuno gyda’r Elyrch ar ôl methu â chytuno ar delerau personol.
Dywedodd y cadeirydd bod y clwb eisoes wedi symud ymlaen at dargedau newydd – ond dyw cyn arwr y clwb, Lee Trundle, ddim yn un ohonyn nhw.
Dyw Abertawe ddim wedi datgelu eu targedau posib ond mae llygad y rheolwr, Paulo Sousa, ar fwy nag un chwaraewr ar hyn o bryd.
Mae’r clwb wedi gwerthu Jason Scotland a Jordi Gomez, ond cadarnhaodd Huw Jenkins na fydd unrhyw chwaraewr arall yn gadael – oni bai fod Paulo Sousa (dde) am gael gwared â nhw.